Diben Cyfoeth Naturiol Cymru yw sicrhau bod adnoddau naturiol Cymru’n cael eu cynnal, eu gwella a’u defnyddio’n gynaliadwy, yn awr ac yn y dyfodol.
Mae gennym amrywiaeth eang o bwerau a dyletswyddau ac yng nghyswllt coedwigaeth mae’r grym gennym i reoli Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru at ddibenion ein swyddogaethau. Mae gennym ddyletswyddau a swyddogaethau statudol penodol o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 i hyrwyddo buddiannau coedwigaeth, datblygu coedwigo, cynhyrchu a chyflenwi pren a sefydlu a chynnal cronfeydd digonol o goed sy’n tyfu. O dan y ddyletswydd gyffredinol, ni sy’n gyfrifol am y ‘Ddyletswydd Cydbwyso’ gyffredinol a rhaid inni ystyried y budd cenedlaethol wrth gynnal ac ehangu adnoddau coedwigaeth. Ni yw partner allweddol Llywodraeth Cymru o ran helpu i wireddu’r canlyniadau a ddisgrifiwyd yn strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer coed a choedlannau, ‘Coetiroedd i Gymru’. Sefydlodd y Strategaeth Coetiroedd weledigaeth 50 mlynedd ac mae’i chynllun gweithredu’n nodi dull partneriaeth o weithio er mwyn sicrhau set gytbwys o ganlyniadau o’r holl goed, coetiroedd a choedwigoedd yng Nghymru – Adnodd Coedwigoedd Cymru. Mae Gweinidogion Cymru’n dibynnu arnom hefyd i roi cyngor a chymorth iddynt, fel a bennwyd yn ein Gorchymyn Sefydlu a’n Gorchymyn Swyddogaethau.
Mae Ystâd Goetir Llywodraeth Cymru (LlC) yn cyfateb i 6% o arwynebedd tir Cymru ar hyn o bryd, sef 125,705.4 hectar (ha) o dir sy’n cael ei reoli gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae tua 13% yn dir ar wahân i goetir – mae’n cynnwys pethau fel tir fferm, chwareli, adeiladau, dŵr agored, ffyrdd a rhodfeydd. Lleiniau bach o dir agored o fewn y goedwig (rhan annatod o gynefin y goedwig) yw llawer o’r tir arall hwn neu mae’n rhan hollbwysig o’r seilwaith sy’n ein galluogi i reoli coedwigoedd. Mae 87% o’r ystâd goedwig gyhoeddus yn dir rhydd-ddaliad a 13% yn dir prydles. Mae gwerth cyfalaf yr ystâd goedwig yn £617,905,579 (heb cynnwys 2014ha Llyn Efyrnwy) ac mae’r tir ar wahân i goetir yn werth £35,356,064[1].
Fel rheolwr 38% o Adnodd Coedwigoedd Cymru, ni yw’r corff sy’n cynhyrchu’r mwyaf o bren ac yn darparu’r mwyaf o hamdden awyr agored yng Nghymru. Mae coetiroedd yn cynnig nifer o fuddion mewn un man ar yr un pryd ac mae rheolwyr coedwigaeth wedi dod yn arbenigwyr ar ffeirio buddion wrth benderfynu pa flaenoriaeth i’w rhoi i amcanion sy’n cystadlu â’i gilydd – un o gonglfeini Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy. Mae pwysigrwydd cymharol cynefinoedd coetir yn uwch yng Nghymru ac mae’r gwasanaethau sy’n llifo ohonynt, o ran eu cyfraniad i les pobl, yn gwella’n gyffredinol, ar wahân i effaith plâu a chlefydau[2] (atodiad 1).
Mae synergeddau cryf iawn rhwng Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy a’r dyhead i fabwysiadu Dull Integredig o Reoli Adnoddau Naturiol. Cydnabyddir yn rhyngwladol a gartref (y DU ac yn ddatganoledig)[3] fod Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy yn gweithredu o fewn rhyw fath o fframwaith gwasanaethau ecosystem sy’n cyd-fynd yn llwyr â’r dull yr ydym yn ei ddatblygu ar lefel Cymru i Reoli Adnodau Naturiol yn Integredig. Rhaid i Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy fod yn rhan annatod o’r gwaith o roi Rheoli Adnoddau Naturiol yn Integredig ar waith. Mae perchnogaeth gyhoeddus yn rhoi rheolaeth uniongyrchol i Weinidogion Cymru a’r modd i wireddu amcanion polisi cyhoeddus yn gyflym (yn cynnwys pren, ond heb fod wedi’i gyfyngu i hynny) a hynny ar raddfa ddylanwadol ac mewn ffordd y byddai’n anodd neu’n amhosibl ei gwireddu drwy gymorth grant neu reoleiddio yn unig.
· Rydym wedi datblygu ein Fframwaith Menter gan ddatblygu trefn lywodraethu effeithiol i fentrau cyfredol a rhai newydd ei hystyried;
· Rydym wedi gweithio mwy gydag Awdurdodau Lleol, Forest Holidays, marchnadoedd ynni newydd a phrosiectau dal carbon ac wedi ehangu ein hawliau hela;
· Rydym wedi cyflenwi 887,000m3 o bren i’r farchnad yn 2013/14 drwy 300 o gontractau cynaeafu gan ddarparu incwm o fwy na £14 miliwn ac wedi gwerthu 878,000m3 o bren yn 2014/15;
· Rydym wedi cwblhau mwy na 1400 hectar o waith ailblannu gyda mwy na 3.4 miliwn o goed o 37 rhywogaeth wahanol (ddwywaith yr amrywiaeth ddegawd yn ôl). Y brif rywogaeth sy’n cael ei phlannu o hyd yw sbriws Sitca (39%), yna ffynidwydd Douglas (14%), sbriws Norwy (11%), sbriws Serbia(6%) a derw (6%);
· Rydym wedi arbed mwy na 700KtCO2 yn flynyddol[4] drwy ein Rhaglen Ynni Adnewyddadwy;
· Rydym yn ystyried 172 o gynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach ar yr Ystâd Goetir;
· Byddwn yn darparu mwy na £100 miliwn dros y 25 mlynedd nesaf drwy sefydlu Cronfeydd Ymddiriedolaeth Gymunedol y bydd yr holl brosiectau ynni gwynt yn cyfrannu iddynt, gan ddechrau gyda Phen y Cymoedd yn 2016; a
· Byddwn yn sefydlu dros 900 o ganiatadau a chytundebau i ddefnyddio Ystâd Goetir LlC ar gyfer gweithgareddau sydd o fudd i gymunedau a mentrau.
· Rydym wedi darparu dros 1200 o drwyddedau coedwigaeth (h.y. trwyddedau, hysbysiadau, asesiadau);
· Rydym wedi cymeradwyo 178 o gontractau Creu Coetir Glastir;
· Rydym wedi darparu 261o Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol newydd i sicrhau cydymffurfio â Chynllun Rheoli Clefyd Phytophthora ramorum newydd LlC;
· Rydym wedi darparu hyfforddiant a chymorth i staff a chontractwyr er mwyn gwella’r rheolaeth ar ansawdd dŵr yn ystod gwaith coedwigaeth;
· Rydym wedi darparu seminarau iechyd coed a daeth 200 o unigolion o’r sectorau cyhoeddus a phreifat iddynt; ac
· Rydym wedi cynnig dysgu wedi’i seilio mewn coetir a gwell setiau sgiliau ar gyfer dysgu yn yr awyr agored i fwy na 19000 o fyfyrwyr drwy gyfrwng dros 800 o ymweliadau addysgol – gan gyflwyno’r hyn sy’n cyfateb i 55000 o oriau dysgu / gweithgarwch corfforol.
· Rydym wedi rhoi cyngor a chymorth i LlC wrth iddi ddatblygu a gweithredu’i strategaeth ar reoli clefydau mewn coed a’r Strategaeth Rheoli Clefyd newydd mewn perthynas â Phytophthora ramorum;
· Rydym wedi cwympo dros 2000 hectar o goed llarwydd wedi’u heintio er 2010 ac wedi cyflenwi 456,000 metr ciwbig (m3) fel ymateb uniongyrchol i reoli Phytophthora ramorum; rydym yn bwriadu cyflenwi tua 244,000 m3 yn 2014/15;
· Rydym wedi gweithio’n agos gyda busnesau a chymunedau lleol i leihau effaith llwyrgwympo ar raddfa fawr oherwydd Phytophthora ramorum;
· Rydym wedi dechrau rhoi ein cynllun i leihau’r nifer o goed llarwydd ar ystâd goetir LlC ar waith;
· Rydym wedi parhau i fonitro Chalara fraxinea yng Nghymru a datblygiad y clefyd yn yr amgylchedd ehangach, ac rydym wedi cynhyrchu adroddiad ar effeithiau bioamrywiaeth y clefyd; ac
· Rydym wedi ymgymryd ag amryw o weithgareddau gwyliadwriaeth, yn cynnwys arolygon o ardaloedd gwarchod statudol i warchod rhag clwy castanwydd, gwenynen y castanwydd a chancr pinwydd pyg.
· Mae’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg yn craffu, fel eitem sefydlog, ar y cynnydd a wneir ar yr 17 cam gweithredu;
· Roedd tri o’r camau gweithredu wedi’u cwblhau cyn y breinio a chyflawnwyd naw arall ar ôl Ebrill 2013;
· Mae tri o’r camau sy’n weddill ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau yn ystod 2014 a bydd Llywodraeth Cymru’n symud un cam yn ei flaen; ac
· Mae tri argymhelliad o reidrwydd yn rhan o welliannau tymor hir wrth inni ymateb i ddeddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru wrth iddynt esblygu; maent hefyd yn rhan o’r gwaith o reoli’r broses datblygu cyfundrefnol yn dda.
· Cefnogi swyddi a thwf ym musnesau Cymru –gan ychwanegu mwy o werth i bren sy’n cael ei gynhyrchu yng Nghymru;
· Annog a chynghori tirfeddianwyr i ddechrau rheoli coetiroedd nad oes rheolaeth ddigonol arnynt a denu’r sector coedwigaeth i gyfrannu’n llawnach i’n rhaglen i Reoli Adnoddau Naturiol yn Integredig;
· Helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu mecanweithiau i wneud creu coetiroedd yn opsiwn deniadol, drwy ddefnyddio Cod Carbon Coetiroedd y Deyrnas Unedig a datblygu set gydlynol o fecanweithiau yn y farchnad er darparu gwasanaethau ecosystem a rôl arbennig coetiroedd yn lleihau carbon;
· Gweithio gyda chymunedau fel eu bod yn gallu manteisio ar y buddion sy’n llifo o goetiroedd – yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig a threfol;
· Canfod plâu a chlefydau ac ymateb yn effeithiol iddynt;
· Ymaddasu i effeithiau newid hinsawdd ar goedwigoedd – gan wneud ecosystemau coedwig yn gryfach a pharhau i wella cyflwr coetiroedd;
· Cryfhau ein coedwigoedd a pharhau i amrywio’r rhywogaethau coed yr ydym yn eu plannu. Byddwn yn sicrhau bod y system rheoli coedamaeth yr ydym yn ei defnyddio yn esgor ar y buddion sy’n dod o fod â’r goeden iawn yn y man iawn am y rhesymau iawn a byddwn yn gweithredu’n ddoeth o ran amrywiaeth enynnol a chadwraeth;
· Rhoi rheoliadau sy’n ymdrin â pholisi coedwigaeth cynaliadwy ar waith yn unol â’n dyletswyddau, ein pwerau a’n swyddogaethau;
· Rhoi polisïau coedwigaeth amlbwrpas ar waith a datblygu ein dulliau gwaith strategol, tactegol a gweithredol er mwyn cyflawni’r gorau posibl i bobl a lleoedd;
· Targedu’r ardaloedd y rhoddir blaenoriaeth iddynt er adfer Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol, safleoedd mawn dwfn wedi’u plannu â choed a throi safleoedd yn goetiroedd brodorol. Ar yr un pryd byddwn yn ymdrechu i gynnal cydbwysedd rhwng yr angen i gadw potensial cynhyrchu ar draws Adnodd Coedwigaeth Cymru a’r llif o gynnyrch pren y mae modd ei ddefnyddio;
· Gwella cyflwr coetiroedd yn enwedig ar safleoedd gwarchodedig megis Ardaloedd Cadwraeth Arbennig a’r cyffiniau, i helpu i wireddu statws ecolegol da o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a’r amrywiaeth eang o rywogaethau pwysig sy’n dibynnu ar i’r Ystâd Goetir gael ei rheoli’n ofalus – rhywogaethau fel y wiwer goch a phathew’r cyll; a byddwn yn
· Rheoli Ystâd Goetir LlC yn unol â’r safonau Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy yr ydym yn ymgyrraedd atynt, mewn cyfnod o grebachu ar arian cyhoeddus.
Mae arferion coedwigaeth da a chyfreithiol yn y Deyrnas Unedig wedi datblygu o fewn fframwaith cysyniadol Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy yr ymrwymwyd iddo ar lefel Ryngwladol ac Ewropeaidd dros ddau ddegawd yn ôl. Mae Cynllun Ansawdd Coetiroedd y Deyrnas Unedig (UKWAS) yn cynrychioli diffiniad o Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy ar lefel gwlad. Mae safon UKWAS yn ategu safon y Llywodraeth ei hun ar reoli coedwigoedd yn gynaliadwy, sef Safon Coedwigaeth y Deyrnas Unedig (UKFS); mae hon yn dwyn ynghyd yr holl ganllawiau technegol[5] sy’n cael eu defnyddio fel sail i reoleiddio a darparu cymorth grant.
Rydym wedi etifeddu dyletswydd gyffredinol y Comisiwn Coedwigaeth o dan Ddeddf Coedwigaeth 1967 i hyrwyddo buddiannau coedwigaeth yng Nghymru, datblygu coedwigo a chynhyrchu a chyflenwi pren. Mae’r ddyletswydd honno’n cynnwys hybu sefydlu a chynnal cronfeydd digonol o goed sy’n tyfu ynghyd â ‘Dyletswydd Cydbwyso’ gyffredinol – sy’n allweddol er mwyn i Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy gael ei wireddu. Mae’r Ddeddf yn rhoi nifer o swyddogaethau i’r corff er mwyn iddo gyflawni’i ddyletswydd gyffredinol sef, yn bennaf, rheoli coedwigoedd, y tir y mae Gweinidogion Cymru wedi’i ddarparu iddo o dan y Ddeddf (Ystâd Goetir LlC) a rheoli gwaith cwympo coed (beth bynnag fo’r niferoedd) drwy’r rheoliadau trwyddedau cwympo coed. Rydym hefyd yn arfer swyddogaethau Gweinidogion Cymru i gaffael a gwaredu tir coedwigaeth, yn amodol ar rai cyfyngiadau, o dan drefniant asiantaeth a wnaed o dan adran 83 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.
Cafodd polisi coedwigaeth ei ddatganoli i Gymru yn 2003. Dylanwadodd UKFS ar Bolisi Coedwigaeth Cymru ond dylanwadwyd arno hefyd gan bolisïau a chynlluniau gweithredu Ewrop yn ymwneud â choedwigoedd, sy’n canolbwyntio ar gynnal swyddogaethau lluosog coedwigoedd sy’n dyngedfennol i gymdeithas[6]. Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy yw’r sylfaen y seiliwyd ‘Coetiroedd i Gymru’ a’r weledigaeth 50 mlynedd i Adnodd Coedwigoedd Cymru arni:
‘I Gymru gael ei chydnabod am ei choetiroedd o ansawdd uchel sydd yn harddu’r dirwedd, sydd yn addas i’r amgylchiadau lleol ac sydd â chymysgedd amrywiol o rywogaethau a chynefinoedd.’[7]
Mae’r strategaeth yn nodi’r buddion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd y dylai coetiroedd yng Nghymru eu darparu. Mae’n cydnabod y gallai gymryd degawdau i rai o’r canlyniadau hyn gael eu gwireddu, er y gall eraill ddigwydd yn llawer cyflymach. Y fframwaith hwn ynghyd â’r ymrwymiadau (y mae’r Deyrnas Unedig wedi ymrwymo iddynt) sy’n gosod y cyd-destun i bolisi coedwigaeth Cymru a’r safonau y disgwylir i Ystâd Goetir LlC gael ei rheoli yn unol â nhw. Nhw hefyd yw’r sylfaen ar gyfer rheoli’r ystâd goetir fel ei bod yn darparu buddion amlbwrpas.
Dangosir y fframwaith Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy sydd wedi ennill ei blwyf a sut mae’r Deyrnas Unedig a Chymru wedi symud ymlaen â’u hymrwymiadau ar ffurf diagram yn atodiad 2 ac mae’n dangos rolau a chyfrifoldebau Cyfoeth Naturiol Cymru o ran cyflawni hynny.
Rydym yn rheoli Ystâd Goetir LlC yn unol â’r fframwaith Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy sydd wedi ennill ei blwyf, a’r gyfres o gynlluniau tymor hir – a elwir yn Gynlluniau Dylunio Coedwigoedd – sy’n ymhelaethu arno. Dyma’r ‘cefndir cynllunio’ er mwyn gwireddu amcanion amlbwrpas sy’n ymateb yn effeithiol i bobl a lle. Mae datblygu Fframwaith Menter a methodoleg ar gyfer syniadau presennol a syniadau newydd cymwys, a phennu pa rai y rhoddir blaenoriaeth i fwrw ymlaen â nhw, yn ychwanegu ymhellach at y fframwaith llywodraethu y mae modd gwireddu cyfleoedd economaidd oddi mewn iddo.
Yn yr adran hon rydym yn disgrifio’n gwaith yn: Cynllunio’r Adnodd Coedwigaeth; y Fframwaith Menter; marchnata pren a chysylltiadau masnachol; cynyddu amrywiaeth yr ystâd goedwig gyhoeddus a’i gwneud yn gryfach; y rhaglen ynni adnewyddadwy; a chyflawni ar gyfer anghenion cymdeithas.
Mae’r Cynlluniau Dylunio Coedwigoedd yn gyrru cynlluniau gweithredol sy’n sicrhau ansawdd a hyd a lled rhaglenni gwaith lleol – pethau fel nodi sut bydd coetir yn cael ei reoli neu’i ailblannu neu’n adfywio’n naturiol er mwyn cyflawni amcanion wrth edrych 25 mlynedd i’r dyfodol. Mae’r ffocws masnachol a’r rhaglenni busnes yn gweithredu yng nghyd-destun mwy na 220 o Gynlluniau Dylunio Coedwigoedd sydd wedi eu hen sefydlu. Rydym yn achub ar y cyfle i ddangos sut modd Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy drwy ddatblygu proses Cynllunio’r Adnodd Coedwigaeth, gan addasu’r broses sydd wedi ennill ei phlwyf drwy Brydain yn benodol i Gymru. Bydd hyn yn cysylltu’r gwaith o reoli Ystâd Goetir LlC yn fwy cynhwysfawr â’r gwaith ehangach o reoli adnoddau naturiol. Mae’r cynlluniau’n dangos hefyd fel y mae Ystâd Goetir LlC yn cael ei rheoli ochr yn ochr â Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol a safleoedd dynodedig eraill sydd hefyd yn rhan o’n hystâd. Bydd gweithredu integredig fel hyn yn ei gwneud yn haws llunio partneriaethau ag eraill i gynllunio, ariannu a rhoi camau gweithredu ar waith ar draws rheolwyr tir a gwahanol sectorau (gweler atodiad 3). Caiff proses Cynllunio’r Adnodd Coedwigaeth ei seilio ar asesiad o werth cyfredol y ddarpariaeth gwasanaethau ecosystem a’i gwerth posibl yn y dyfodol, a bydd yn pennu amcanion a chynlluniau rheoli yn unol â hynny.
Mae datblygu gweithgareddau menter presennol a newydd wedi’i nodi’n flaenoriaeth inni gan Lywodraeth Cymru yn Llythyr Cylch Gwaith 2013 -14 a chan lawer o randdeiliaid busnes. Mae rheoli asedau ac adnoddau tir sylweddol yn uniongyrchol, ynghyd â sgiliau craidd mewn sectorau marchnad allweddol, yn cynnig cyfle newydd inni i gynnal a datblygu gweithgareddau menter arloesol newydd wedi’u seilio ar egwyddorion rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Bydd cyfleoedd menter cytbwys, yn cael eu rhoi ar waith yn effeithlon, yn gyfrwng buddiol i liniaru pwysau pellach tebygol yn y dyfodol ar y Cymorth Grant a geir gan Lywodraeth Cymru a byddant yn gyfraniad pwysig tuag at ddyheadau’r Llywodraeth o ran swyddi a thwf yng Nghymru.
Er 1 Ebrill 2013, rydym wedi datblygu fframwaith menter a methodoleg ar gyfer syniadau presennol a syniadau newydd cymwys, gan flaenoriaethu pa rai i fwrw ymlaen ymhellach â nhw ar sail potensial refeniw, cyfraddau elw derbyniol gofynnol, vires, cyflymdra, pa mor hawdd fydd eu rhoi ar waith a phriodoldeb amgylcheddol a chymdeithasol. Mae’n gweithgareddau menter yn eang ac amrywiol, yn cynnwys dyfarnu contractau tymor hir i gyflenwi llarwydd wedi’i heintio, mentrau cyhoeddus-preifat ar y cyd, Tasglu Tai LlC, prydlesu hawliau hela i fusnesau lleol, gwerthu tir amaethyddol dros ben, fforddfreintiau telathrebu a phrosiect peilot dal carbon gan ddefnyddio dull ‘taliadau am wasanaethau ecosystem’.
Rheolwyr cwsmeriaid sy’n arwain ein cysylltiadau â chwsmeriaid pren. Ceir cyfathrebu parhaus i reoli’r contractau sydd gennym eisoes a gwerthiannau, ynghyd â chyfres o gyfarfodydd chwarterol ffurfiol rheolaidd. Rydym yn cwrdd o leiaf unwaith y flwyddyn â’r holl fasnachwyr pren a, bryd hynny, byddwn yn rhannu ein perfformiad cyfredol o fewn y flwyddyn ynghyd â’r cynllun treigl cynhyrchu a gwerthu am y cyfnod nesaf o dair blynedd. Rydym hefyd yn rhannu ac yn trafod materion fel perfformiad contractau a pherfformiad o ran cynhyrchu pren, newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau iechyd a diogelwch neu bolisïau a gweithdrefnau amgylcheddol a fydd yn effeithio ar gynaeafu pren ar yr ystâd goedwig gyhoeddus yn y cyfarfod cyswllt blynyddol â’r masnachwyr. Rydym yn cwrdd â sefydliadau allweddol yn rheolaidd.
I sicrhau parhad o ran busnes, rydym wedi mabwysiadu Strategaeth Marchnata Pren 2011-16[8] y corff etifeddol a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â masnachwyr pren a rhanddeiliaid allanol eraill. Mae’n dangos y cyswllt rhwng yr amcanion a nodwyd yn y Strategaeth Coetiroedd a sut bydd marchnata pren yn gwireddu’r amcanion hynny yn flynyddol ac o fewn ffrâm amser o bum mlynedd. Er bod y strategaeth bresennol yn rhedeg tan fis Mawrth 2016, oherwydd effaith sylweddol Phytophthora ramorum ar gyfaint y pren sy’n cael ei gynhyrchu a’r llifoedd cynhyrchu rydym wedi penderfynu ei hadolygu 12 mis yn gynharach yn haf 2014 gyda golwg ar lansio’r Strategaeth Marchnata Pren newydd erbyn mis Mawrth 2015. Ymgynghorir yn llawn â masnachwyr pren wrth ei pharatoi.
Mae ein Strategaeth Marchnata Pren gyfredol yn anelu at gydraddoldeb rhwng contractau tymor hir a chontractau tymor byr a gwerthiannau – sydd i gyd yn cael eu cynnig i farchnad agored. Yn 2013/14 roedd y gyfran yn 40:60 (contractau tymor hir : contractau tymor byr a gwerthiannau) yn fras. Fodd bynnag, mae effaith Phytophthora ramorum a’r cynhaeaf llarwydd cynyddol (yn codi i 30% bron o’r holl bren sy’n cael ei gynhyrchu o’r ystâd yn y flwyddyn gyfredol) wedi golygu bod y cyfrannau hyn wedi troi o chwith yn 2014/15 i 60:40. Diben cynyddu’r nifer o gontractau tymor hir a oedd yn cael eu cynnig oedd annog a chefnogi’r sectorau cynaeafu a phrosesu ar sail mor sefydlog â phosibl. Ym mis Rhagfyr 2013 gwnaethom ysgrifennu at broseswyr pren i roi gwybod iddynt am y newidiadau o ran faint o bren coch (e.e. llarwydd) a gwyn (e.e. sbriws) a fyddai ar gael yn y dyfodol a’i leoliad gofodol ar draws Cymru. Rydym wedi cysylltu’n agos â’r sectorau contractio a phrosesu pren gydol y cyfnod ymateb cyflym ynglŷn â’n cynlluniau cydymffurfio rheoliadol ac am reoli clefyd arwyddocaol ar goed drwy roi’r cynllun i leihau’r nifer o goed llarwydd ar waith ar Ystâd Goetir LlC (gweler adran 5.5). Rhoesom gynllun cynhyrchu pren hyd at 2021 i’r diwydiant pren (yn cynnwys tyfwyr preifat) ar y cyfle cyntaf posibl i’w helpu i gynllunio’u busnesau eu hunain. Drwy ddefnyddio contractau tymor hir rydym wedi annog buddsoddi preifat a fydd yn sicrhau’r gwerth gorau am goed llarwydd i holl dyfwyr Cymru.
Roedd blwyddyn 2013/14 yn anhygoel o heriol i reolwyr coedwigoedd, nid yn unig oherwydd rheoli clefydau ar goed ond hefyd am mai hon oedd y flwyddyn wlypaf ers dechrau cadw cofnodion a chafodd Cymru un storm ar ôl y llall o’r Iwerydd. Mae 80% o’r coetiroedd sydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum yn rhan o Ystâd Goetir LlC. Er gwaethaf hyn rydym wedi rhagori ar y targedau yn ein Cynllun Busnes gan gynhyrchu bron 70,000m3 yn fwy o bren na’r targed a £400,000 yn fwy o incwm.
Caiff y prif ddulliau gwerthu pren a’r sail resymegol y’u seiliwyd arni eu disgrifio yn y Strategaeth Marchnata Pren. Caiff pren ei gynnig yn rheolaidd i’r farchnad agored drwy ddau ddull sy’n cael eu disgrifio fel Arwerthiannau Coed sy’n Sefyll neu arwerthiannau Cynhyrchiant Uniongyrchol. Mae galw mawr am y naill ddull a’r llall o du proseswyr ar draws Cymru ac maent yn cynnig manteision i’r diwydiant ac i ninnau fel rhan o reoli Ystâd Goetir LlC yn gynaliadwy.
Gwerthir y coed un ai drwy gytundebau contract tymor hir neu drwy gynnig contractau tymor byr drwy system dendro electronig. Ymrwymir i gytundebau contract tymor hir drwy brosesau gwerthu cystadleuol ar y farchnad agored ac maent wedi’u bwriadu i sicrhau y ceir canlyniadau positif i bob parti a bod pob elfen o’r sector pren yn cael cefnogaeth lle mae hynny’n bosibl. Gallai hynny fod drwy fuddsoddi mewn capasiti prosesu, gwella safonau iechyd a diogelwch, gofyniad mewn contractau i gynnal prentisiaethau, ychwanegu gwerthu i’r cynnyrch terfynol a datblygu marchnadoedd arbenigol i rywogaethau llai cyffredin. Caiff arwerthiannau marchnad agored eu cynnig drwy arwerthiannau wedi’u hysbysebu a chaiff lotiau coed sy’n sefyll a pharseli wrth ymyl y ffordd eu cynnig. Arwerthiant tendro wedi’i seilio ar y rhyngrwyd yw’r system (E-Sales) ac mae’r holl ddogfennau perthnasol yn cael eu darparu ar-lein.
Drwy’r Strategaeth Marchnata Pren, cyswllt rheolaidd â chwsmeriaid a’r cyfarfod cyswllt blynyddol â chwsmeriaid, mae’r sector yn cael gwybod pryd mae disgwyl i goed ddod i’r farchnad. Ar hyn o bryd rydym yn cyhoeddi’r prisiau cyfartalog a geir mewn arwerthiannau ar wefan y Comisiwn Coedwigaeth ynghyd â gwybodaeth am y tueddiadau o ran prisiau o arwerthiannau ymyl y ffordd a choed sy’n sefyll – gwneir hyn drwy gyfres o fynegeion. Oherwydd cyfrinachedd masnachol, dim ond gwerthiannau lle cafwyd tri neu ragor o gynigion sy’n cael eu cynnwys yn y ffigurau yr ydym yn eu cyhoeddi. Diben y mynegeion yw dangos tueddiadau tymor hir ac nid ydynt yn cynrychioli’r union brisiau a gafwyd am lotiau gwerthu unigol. Mae’r prisiau a gafwyd am bren o’r ystâd goedwig gyhoeddus yng Nghymru yn cymharu’n fras â’r rhai a gafwyd yn Lloegr a’r Alban.
Rydym wedi ymrwymo i adolygu’r ffordd yr ydym yn cyhoeddi prisiau pren ar hyn o bryd fel bod y data’n golygu mwy i eraill. Yn ddiweddar rydym wedi awgrymu y gallai’r adolygiad cyfredol o farchnata pren ynghyd â grŵp ystadegau’r diwydiant pren fod yn fecanwaith i symud hyn ymlaen. Fel bob amser, mae cyfrinachedd yn ystyriaeth o bwys a byddai angen i unrhyw newid o ran cyhoeddi’r prisiau am ein pren gael cefnogaeth y sector cyfan.
Mae prisiau a chynnwys lotiau’n gallu amrywio’n fawr o un man gwerthu i’r llall. Mae hyn yn adlewyrchu natur amrywiol clystyrau o goed a natur rheoli ystâd goedwig gyhoeddus at ddibenion amlbwrpas. Ymysg y ffactorau sy’n effeithio ar brisiau pren mae maint coed, tirwedd y safle, y cymysgedd o raglenni teneuo a rhaglenni llwyrgwympo a pha mor agos yw’r coed at y farchnad. Mae ffactorau economaidd ehangach yn dylanwadu ar brisiau pren a hefyd faint o ddefnydd sydd o gynnyrch pren – pethau fel codi tai a pherfformiad diwydiant gweithgynhyrchu, prisiau ynni a thueddiadau arian cyfred. Mae’r gwelliant yn yr hinsawdd economaidd wedi gweld cynnydd ym mhrisiau pren dros y ddwy flynedd diwethaf ond y disgwyl yw y bydd marchnadoedd yn dal i fod yn gyfnewidiol ac yn heriol cyn belled ag y y gellir rhagweld i’r dyfodol.
Er bod prisiau coed ar i fyny, mae’r cynnydd yn faint o larwydd wedi’u heintio â Phytophthora ramorum sy’n cael eu cynhyrchu a’u marchnata wedi arwain at ostyngiad yn yr incwm o werthu pren o’r ystâd goedwig gyhoeddus. Mae Tabl 1 yn dangos effaith ariannol, o un flwyddyn i’r nesaf, cynyddu’r gyfran o goed llarwydd yn ein rhaglen cynaeafu coed. Mae Cymru wedi ymdopi ag ymateb cyflym, ar raddfa sylweddol fwy, i’r clefyd er 2010/11 na gweddill y Deyrnas Unedig a hynny sydd i gyfrif am y llurgunio ar y prisiau a gafwyd am bren fesul gwlad. Ceir rhagor o dystiolaeth yn adran 5.
|
Cyfnod |
Llarwydd fel % o’r rhaglen |
Gostyngiad % o ran cyfanswm incwm |
|
2010/11 |
6.29 |
1.92 |
|
2011/12 |
15.29 |
4.62 |
|
2012/13 |
13.43 |
3.98 |
|
2013/14 |
19.84 |
6.25 |
|
2014/15 |
29.48 |
8.95 |
Bydd rheoli ystâd fwy amrywiol yn help i’w gwneud yn gryfach i wrthsefyll effeithiau newid hinsawdd, yn arbennig y risg o blâu a phathogenau, ond mae hefyd yn fecanwaith i sicrhau’r cydbwysedd o amcanion amlbwrpas y mae’r Strategaeth Coetiroedd am ei weld – pethau sy’n briodol i bobl a lle yn lleol, sy’n cael eu disgrifio mewn Cynlluniau Dylunio Coedwig. Mae tri phrif fesur rheoli i wneud coetiroedd yn gryfach: gwella’r rhywogaethau coed a ddewisir, defnyddio dulliau eraill yn hytrach na llwyrgwympo lle mae hynny’n bosibl a mabwysiadu dull cadarn i ymdrin ag amrywiaeth enynnol a chadwraeth. Mae’r achosion o Phytophthora ramorummewn llarwydd a Chalara fraxineamewn ynn yn dangos perygl dibynnu ar nifer fach o rywogaethau. Mae cynhyrchiant pren yn y Deyrnas Unedig yn dal i ddibynnu ar bren meddal (95% o gonwydd) gyda dim ond 5% o bren caled ac rydym yn buddsoddi mewn ymchwil i wella’n gwybodaeth o berfformiad twf a phriodweddau pren yr amrywiaeth ehangach hwn o rywogaethau a fydd yn rhan o’r rhagolygon cynhyrchu tymor hir. Proses tymor hir yw cynyddu amrywiaeth strwythurol Ystâd Goetir LlC o reidrwydd ac rydym yn lleihau’r arwynebedd sy’n cael ei reoli drwy lwyrgwympo ac yn cynyddu’r gyfran sy’n newid i systemau gorchudd parhaus. Rydym yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu’r ffordd y mae Cymru’n ymdrin â chadwraeth ac amrywiaeth enynnol yn Adnodd Coedwigaeth Cymru.
Yn y degawd blaenorol roedd saith rhywogaeth wahanol o gonwydd yn cael eu plannu, gyda sbriws Sitca i gyfrif am bron 60%. Erbyn 2016, byddwn yn ailblannu ag 16 rhywogaeth wahanol o gonwydd, a bydd sbriws Sitca’n 20% o hynny. Bydd 26% o’r cyfanswm yn rhywogaethau conwydd a fyddai’n draddodiadol wedi cael eu hystyried yn ‘rhywogaethau amgen’. Bydd 28% yn fras o’r coed a ailblannir yn goed llydanddail a hynny’n ychwanegol at yr arwynebedd o goetir llydanddail a sefydlir drwy adfywio naturiol. Mae ffactorau fel priddoedd, tirwedd, uchder, pa mor agored yw safle, hanes rheoli ac addasrwydd rhywogaeth coed o ystyried y newidiadau a ragwelir yn yr hinsawdd yn cyfyngu rhywfaint ar y gallu i amrywio. Wrth reoli Ystâd Goetir LlC rydym yn dilyn dull rhagfynegi sy’n ystyried mathau o goedwigoedd ac yn paru rhywogaethau addas â’r safle penodol dan sylw ac rydym yn annog perchnogion a rheolwyr eraill coetiroedd i ddilyn yr un drefn.
Cwblhawyd y rhaglen ailblannu o 1350 hectar y cyllidebwyd ar ei chyfer erbyn diwedd Mawrth 2014. Hefyd, cwblhawyd y gwaith o ailblannu 55 hectar ychwanegol o dir a gwympwyd oherwydd Phytophthora ramorum, a hynny o fewn yr arian yn y gyllideb, a olygai fod y rhaglen ailblannu a gwblhawyd yn 1405 hectar i gyd. Plannwyd rhyw 3.4 miliwn o goed o 37 rhywogaeth wahanol (ddwywaith yr amrywiaeth a blannwyd ddegawd yn ôl) gan gontractwyr a oedd wedi gallu manteisio’n llawn ar y tywydd ffafriol a gafwyd yn ystod y tymor plannu. Y brif rywogaeth a blannwyd o hyd yw sbriws Sitca (39%), yna ffynidwydd Douglas (14%), sbriws Norwy (11%), sbriws Serbia (6%) a derw (6%) ac mae rhywogaethau fel ceirios, pisgwydd a chedrwydd coch wedi’u cynnwys. Mae ein grŵp cyswllt hadau yn dal i weithio’n agos gyda thyfwyr i nodi a chasglu hadau ar gyfer y rhaglenni rhagamcanol ac i fynd i’r afael ag unrhyw ddiffyg yn y cyflenwad.
Arolygwyd 5515 hectar o glystyrau iau na phum mlwydd oed a sefydlwyd mesurau dethol i reoli chwyn, pryfed a mamaliaid i sicrhau eu hod yn ymsefydlu’n llwyddiannus.
Mae Planhigfeydd ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol sydd wedi cael eu llwyrgwympo oherwydd clefyd coed h.y. Phytphthora ramorummewn llarwydd, yn mynd i gael eu hailstocio, cyhyd â bo arian ar gael, gyda’r nod o warchod nodweddion coetir hynafol ac adfer y gorchudd canopi coed brodorol.
Rhagamcenir y bydd y rhaglen ynni gwynt ar Ystâd Goetir LlC yn cyflenwi 83% o darged ynni gwynt ar y tir LlC[9]. Mae’n staff yn rheoli’r rhaglen ar ran Llywodraeth Cymru gan ddefnyddio setiau sgiliau gwerthfawr, a’u datblygu ymhellach. Mae’r gwaith sy’n cael ei gynllunio i wireddu’r holl brosiectau ynni gwynt yn mynd rhagddo yn unol a’r disgwyl a chyrhaeddwyd y targedau perthnasol ar y dangosfwrdd corfforaethol am y cyfnod. Mae pob prosiect ar gam gwahanol yn ei ddatblygiad. Mae Dwyrain Coedwig Brechfa (36MW) a Gorllewin Coedwig Brechfa (84MW) wedi cael caniatâd cynllunio. Mae Coedwig Clocaenog (96MW) yn disgwyl am benderfyniad y Gweinidog a disgwylir i gais cynllunio gael ei gyflwyno ar gyfer Coedwig Dyfnant (116MW) yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Nid oes cytundeb opsiynau ar gyfer Ardal Chwilio Strategol E Pontardawe ond fe’i cadwyd wrth gefn fel Datblygiad Cymunedol posibl – rhywbeth a nodwyd yn glir yn Natganiad y Gweinidog, a oedd yn ofynnol i awdurdodi’r trefniant terfynu. Mae prosiect Nant y Moch (155MW) yn cael ei adolygu ar hyn o bryd ac mae SSE Renewables yn gweithio gyda ni i sefydlu’r ffordd orau bosibl ymlaen.
Y safle mwyaf datblygedig yw Pen y Cymoedd (228MW capasiti gosodedig). Ym mis Chwefror 2014, gwnaethom ddarparu’r rhaglen clirio coed y cytunwyd arni i’r datblygwr, Vattenfall UK, ac mae’r gwaith o adeiladu’r safle a’r seilwaith cysylltiol wedi dechrau. Cafodd llwybr beicio mynydd lliniarol ‘Blade’ ei adeiladu rhwng mis Gorffennaf a mis Rhagfyr 2013 gan agor ym mis Chwefror 2014 ym Mharc Coedwig Afan. Mae lliniaru amgylcheddol gwerth £3M yn cael sylw ar hyn o bryd yn sgil sefydlu’r Grŵp Llywio Ecolegol a fydd yn rhoi cyngor ynglŷn â gwireddu’r Cynllun Rheoli Cynefinoedd a gwariant cysylltiol. Disgwylir i Ben y Cymoedd arbed rhwng 4 a 9.5MtCO2 [10] dros ei oes 25 mlynedd[11].
Mae’r rhaglen ynni gwynt yn gweithredu’n unol â nifer o egwyddorion pwysig o’r Strategaeth Coetiroedd. Mae hyn yn cynnwys, lle caiff coetir ei glirio’n barhaol, fod rhaid i’r datblygwyr a’r rhaglen ariannu’r gwaith o greu arwynebedd cyfatebol o goetir yng Nghymru.
Cafodd y Rhaglen Ynni Dŵr ar Raddfa Fach ei chomisiynu gan LlC i ymchwilio i gyfleoedd i ddatblygu cynlluniau o’r fath ar Ystâd Goetir LlC a’u gwireddu. Daeth 302 datganiad o ddiddordeb ar 240 o safleoedd i law’r Rhaglen ac mae wrthi bellach yn ystyried 172 o gynlluniau fel tair carfan rhwng mis Ebrill 2013 a mis Rhagfyr 2017. Mae’r rhaglen pedair blynedd wedi gweithio’n agos gyda datblygwyr i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’n polisi tynnu dŵr. Os caiff hanner y cynlluniau eu hadeiladu neu’u cwblhau, mae disgwyl i’r rhaglen hon arbed 79KtCO2 yn flynyddol[12]. Mae’r rhaglen wedi sbarduno creu busnesau bach a chanolig eu maint ac mae’n enghraifft dda o fuddsoddiad cyhoeddus (a defnyddio tir cyhoeddus) yn ysgogi diddordeb, datblygu technolegol a thwf gwasanaethau cymorth i ynni adnewyddadwy yn yr economi ehangach.
Mae pedwar cytundeb mynediad ar draws Ystâd Goetir LlC i gynlluniau ynni gwynt gweithredol a ddatblygwyd oddi ar ffyrdd coedwig cyhoeddus.
Cynllun sy’n cael ei ariannu gan yr UE yw’r Cynllun Busnes Ynni Pren ac mae’n darparu grant cyfalaf i fusnesau ar gyfer systemau gwresogi tanwydd pren a chyfarpar prosesu. Gwnaed 70 cynnig i ymgeiswyr, a chwblhawyd 59 prosiect. Mae’r cynllun wedi cau erbyn hyn i ymgeiswyr newydd ond bydd yn dal i redeg tan fis Mawrth 2015 gan fod tri grant posibl i’w cwblhau eto. Amcangyfrifir y bydd y rhaglen hon yn arbed dros 2KtCO2 y flwyddyn ac o fewn ei hoes bydd yn arbed cyfanswm o 6.47KtCO2[13]. Rhoddodd y cynllun y cyfle i ymgeiswyr ganfod cyfaint cyflenwi Ystâd Goetir LlC – enghraifft o hyblygrwydd perchenogaeth tir gyhoeddus i sbarduno mentrau newydd.
Mae ein Datganiad Strategol ar Hamdden a Mynediad 2014 – 2015[14] yn nodi sut rydym yn darparu cyfleoedd ar yr ystâd goedwig gyhoeddus ac yn hwyluso’r ffordd i eraill ei defnyddio. Mae hefyd yn nodi sut rydym yn gweithio gydag eraill i hwyluso a hyrwyddo hamdden a mynediad ar draws Cymru. Cafodd y cynnwys ei ddatblygu o weithdai mewnol ac allanol fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r Cynllun Corfforaethol.
Rydym wedi parhau i ddatblygu cyfleoedd i ddarparu mynediad ar yr ystâd goedwig gyhoeddus. Rhoddwyd blaenoriaeth uchel i ddatblygu a gwella’r ddarpariaeth hamdden a mynediad yng nghyffiniau canolfannau ymwelwyr Afan a Chwmcarn – ardaloedd yr effeithiwyd yn helaeth arnynt gan lwyrgwympo ar raddfa fawr er mwyn rheoli Phytophthora ramorum. Bydd ailddatblygu’r safleoedd yn annog ymwelwyr newydd ac eraill sy’n dod yn ôl, gan ddarparu cyfleoedd mynediad tra mae gwaith coedwigaeth yn mynd rhagddo. Mae rhaglen ynni gwynt Vattenfall UK gerllaw wedi cyfrannu darpariaeth liniaru ar ffurf llwybrau beicio mynydd newydd yn Afan.
Ar safle Coed y Brenin mae 11km o lwybrau newydd wedi cael eu creu. Datblygwyd pedwar llwybr rhedeg newydd gan ddefnyddio canllawiau Athletau Cymru, ac maent yn darparu ar gyfer marchnad sy’n tyfu. Mae uned newydd rhedeg llwybrau (manwerthu a chynghori) wedi cael ei gosod ar brydles i gefnogi’r farchnad newydd hon. Bydd ffigurau ymwelwyr a chreu swyddi diwedd blwyddyn 13/14 ar gael ar gyfer y sesiwn tystiolaeth lafar ond adeg ysgrifennu’r papur hwn mae 51500 o ymwelwyr ychwanegol wedi ymweld â’r safle hwn ac mae 5.75 o swyddi wedi cael eu creu[15].
Mae ardal chwarae newydd, yn cynnwys ardal chwarae naturiol, wedi cael ei datblygu a’i lansio ym Moel Famau yng ngogledd-ddwyrain Cymru – y gyntaf o’i bath ar yr ystâd goedwig gyhoeddus. Mae’r ardal chwarae yn annog plant a phobl ifanc i fentro i’r coetir, allan o’r lle chwarae adeiledig mwy cyfarwydd, gan feithrin eu hyder a’u sgiliau symud drwy chwarae ac archwilio.
Gan adeiladu ar y dull sydd wedi ennill ei blwyf o fewn y Comisiwn Coedwigaeth a Cyfoeth Naturiol Cymru[16] a’r pwyslais mawr ar reoli iechyd a diogelwch o fewn gwaith coedwigaeth, rydym wedi datblygu canllawiau penodol ar gyfer ardaloedd lle ceir llawer o ddefnydd cyhoeddus. Mae gwaith rheoli’r goedwig yn hanfodol er mwyn darparu, datblygu a chynnal coetiroedd saff a chroesawgar, sy’n cael eu rheoli’n dda, ar gyfer hamdden, mynediad a gweithgarwch cymunedol arall. Bydd y canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth i’r cyhoedd i ateb cwestiynau – ‘pryd’, ‘pam’ a ‘beth’ – am y gwaith rydyn ni’n ei wneud yn y goedwig a chynlluniau mawr eraill fel creu ffyrdd coedwig. Datblygwyd y canllawiau mewn partneriaeth ac ymgynghoriad â’n staff gweithredol arbenigol ac fe’u treialwyd yng Nghoed y Cymoedd yn y De y llynedd. Byddant yn cael eu cyflwyno’n raddol yn 2014 ar draws coetiroedd yr ydym yn eu rheoli yn unol ag argymhellion UKWAS. Mae’r canllawiau’n cael eu hehangu i gynnwys hysbysu’r cyhoedd am Gynlluniau Adnodd Coedwigaeth ac ymgynghori â nhw. Bydd hyn yn golygu dadansoddi rhanddeiliaid a chynnal dadansoddiadau gofodol i sicrhau bod yr adnoddau ymgysylltu’n cael eu targedu at y cymunedau a’r grwpiau hynny sydd â diddordeb uniongyrchol mewn coetiroedd y gwneir defnydd helaeth ohonynt. Gallwn ymgynghori ynglŷn â ‘sut’ a ‘phryd’ y caiff gwaith ei wneud a gallwn roi gwybodaeth am y ffactorau sy’n pennu pa rywogaethau o goed sy’n cael eu dewis a’r cynlluniau adnodd coedwigaeth (‘beth’ a ‘pham’) – pethau fel priddoedd, tirwedd, uchder, pa mor agored yw safle a hanes rheoli.
Drwy gynllun Coetiroedd a Chi rydym yn annog ac yn hwyluso defnyddio Ystâd Goetir LlC ar gyfer amrywiaeth o fuddion cymunedol a menter. Gellir defnyddio’r coetiroedd rydyn ni’n eu rheoli ar gyfer cynlluniau hyfforddi a menter, cynlluniau iechyd a lles, rhaglenni celfyddydol ac adfywio cymunedol, gweithgareddau a digwyddiadau o bob math. Sefydlwyd dros 900 o ganiatadau a chytundebau yn 2012/13 ac er bod ffigurau 13/14 yn dal i gael eu paratoi mae’r duedd ar i fyny. Mae LlC a Cyfoeth Naturiol Cymru fel ei gilydd am i gymunedau a mentrau cymdeithasol gael y budd mwyaf posibl o Ystâd Goetir LlC. Mae pecyn a phroses fonitro a gwerthuso wedi cael eu datblygu a’u rhoi ar waith i sicrhau ein bod yn darparu’r gwasanaeth gorau posibl i ymgeiswyr. Mae’r cynllun yn cael ei ddatblygu a’i ymestyn ar hyn o bryd i gynnwys yr holl dir sy’n eiddo inni ac yn cael ei reoli gennym.
Rydym yn cyflawni ein dyletswyddau a’n swyddogaethau yn ôl paramedrau ein Gorchymyn Sefydlu a’n Gorchymyn Swyddogaethau. Wrth reoli’r Ystâd Goedwig Gyhoeddus rydym yn gallu cyflawni yn erbyn blaenoriaethau ehangach LlC – pethau fel twf gwyrdd (darparu cyfleoedd i fenter), gweithgarwch iach (darparu hamdden a mynediad); ynni gwyrdd (rhaglen ynni adnewyddadwy, gwerthu biomas); mynd i’r afael â thlodi (sianelu buddion tuag at y grwpiau a’r cymunedau mwyaf difreintiedig), fel sy’n cael ei ddangos yn atodiad 3 a’i ddisgrifio yn adrannau 3.7 a 4.3.8.
Un agwedd o reoli ystâd goedwig gyhoeddus yn uniongyrchol nad yw’n cael cydnabyddiaeth ddigonol yn aml yw profiad ein staff a sicrhau bod modd trosglwyddo’r setiau proffesiynol gwerthfawr hyn o sgiliau coedwigaeth i’r gwaith ehangach o gyflawni ein pwerau, ein dyletswyddau a’n swyddogaethau. Mae defnyddio ymchwil gymhwysol i ddylanwadu ar sut mae eraill yn cynllunio a rheoli eu tir yn rhan allweddol o’n busnes. Roeddem yn dal i weinyddu grantiau newydd Creu Coetiroedd Glastir tan 31ain Rhagfyr 2013. Yn ychwanegol at ein capasiti fel rheoleiddiwr dros faterion coedwigaeth a grantiau coetir, rydym yn parhau i ddarparu cyngor a chymorth i wireddu’r newid sy’n ofynnol er mwyn cael sector coedwigaeth cryf a pharhau i ddatblygu’r arferion gorau o ran Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy.
Yn yr adran hon rydym yn disgrifio ein gwaith yn: rheoleiddio materion coedwigaeth; enghreifftiau er mis Ebrill 2013 o gyngor ac arweiniad technegol i gefnogi cydymffurfio rheoliadol ac arferion gorau, yn cynnwys buddsoddi mewn ymchwil coedwigaeth; a sut rydyn ni’n ymgysylltu â’n rhanddeiliaid allanol allweddol yn y sector coedwigaeth a’r rhai sydd â buddiant yn y sector.
Fel y rheoleiddiwr i faterion coedwigaeth, rydym yn gyfrifol am ddarparu trwyddedau cwympo coed a Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol, ac am weinyddu Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol a chyfyngiadau ar fynediad agored ac eithriadau i goedwigoedd. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru’n gyfrifol am y materion hyn ar Ystâd Goetir LlC yn ogystal ag yn y sector preifat. Yn gyffredinol, ar wahân i Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol (i roi Strategaeth Rheoli Clefyd LlC ar gyfer Phytophthora ramorum ar waith), ni fu unrhyw newid o bwys yn y gweithgareddau rheoleiddio coedwigaeth er mis Ebrill 2013.
Ers breinio, mae’r canlynol wedi cael eu cyflwyno[17] (nid dim ond i Ystâd Goetir LlC):
Cyfyngiadau ac eithriadau mynediad agored 134
Trwyddedau cwympo coed 350
Penderfynu ar Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol (coedwigaeth) 46
Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol(sy’n cynnwys Hysbysiadau Iechyd Planhigion
Statudol a ddirymwyd a’r rhai newydd yn sgil Strategaeth Rheoli Clefyd LlC ar gyfer Phytophthora ramorum) 471
Rydym yn gyfrifol am ddelio ag achosion honedig o gwympo anghyfreithlon ac yn 2013/14 gwnaethom ymateb i 80 achos – o’r rhain, ymchwiliwyd i bump fel Achosion i’w Hateb. Rydym hefyd yn gyfrifol am hawlio grantiau’n ôl lle nad yw gwaith wedi’i gwblhau, neu ei fod yn anfoddhaol. Er mis Ebrill 2013 rydym wedi mynd ar drywydd dau achos newydd i hawlio grant yn ôl. Nid oes a wnelo’r rhain â gwaith Cyfoeth Naturiol Cymru yn rheoli Ystâd Goetir LlC.
Yn ystod y flwyddyn cymeradwywyd 178 o geisiadau contract Creu Coetiroedd Glastir; o’r rhain roedd angen ymgynghori ynghylch 89. Mae cynllun Rheoli Coetiroedd Glastir wedi cael ei weinyddu gan Lywodraeth Cymru ers ei sefydlu ac felly hefyd gynllun Creu Coetiroedd Glastir er 2014. Byddwn yn parhau i reoli Coetiroedd Gwell i Gymru a grantiau etifeddol Creu Coetiroedd Glastir cyhyd ag y mae Llywodraeth Cymru’n rhoi’r tasgau hynny inni – gwneir y taliadau terfynol yn 2022. Byddwn yn parhau i ddarparu cyngor ynglŷn â datblygu Elfen Coetir Glastir a’i rhoi ar waith.
Fel rhan o’n hymateb i ddigwyddiadau llygru diweddar, rydym wedi cryfhau ein gweithdrefnau i reoli’r risg i ansawdd dŵr o waith coedwigaeth gan ganolbwyntio ar y risg o waddod yn mynd i mewn i ddalgylchoedd dŵr. Cynhaliwyd sesiynau codi ymwybyddiaeth i staff gwaith coedwigaeth, yn cynnwys contractwyr, yn hwyr yn 2013 ac mae rhagor o sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer eleni. Mae contractwyr yn aml yn adnodd sy’n cael ei rannu rhwng rheolwyr coedwig cyhoeddus a phreifat a bydd ein buddsoddiad ni yn help i wella safonau i bawb.
Rydym wedi darparu hyfforddiant i gontractwyr UPM Tilhill i godi ymwybyddiaeth o faterion yn ymwneud â rheoliadau coedwigaeth (Asesiadau o Effeithiau Amgylcheddol a thrwyddedau cwympo) a gwaith rheoli, er mwyn atal cyrsiau dŵr rhag cael eu siltio yn ystod gwaith coedwigaeth.
Bydd canllawiau ymarfer yn cael eu cyhoeddi’n fuan gan y Comisiwn Coedwigaeth (rhan o gyfres o Safonau Coedwigaeth y Deyrnas Unedig sy’n nodi’r arferion gorau), yn ymdrin â rheoli coedwigoedd mewn ardaloedd sensitif i asid. Rydym wedi cynhyrchu ein canllawiau gweithredu ni i Gymru a rhoi gwybod i’r sector coedwigaeth amdanynt a than fis Medi 2015 byddwn yn darparu gwasanaeth i’r sector preifat a Rheolwyr Glastir i’w helpu i roi’r canllawiau ar waith.
Mae gwiddon pinwydd yn fygythiad mawr i goed sydd newydd eu plannu a gallant achosi colledion o hyd at 100% os na chânt eu rheoli. Rydym yn parhau i weithio gyda Forest Research, y Comisiwn Coedwigaeth, tyfwyr a pherchenogion coedwigoedd i sicrhau dulliau amgen effeithiol yn lle cypermethrin fel rhan o strategaeth ehangach i leihau ein defnydd o gemegau[18]. Rydym eisoes yn defnyddio nifer o ddulliau amgen yn cynnwys rheolaeth fiolegol gan ddefnyddio nematodau sy’n lladd y gwiddon. Rydym wedi parhau i gyfrannu i’r £500,000 sydd wedi cael ei wario er 2010 ar ymchwil i ddulliau amgen sy’n addas i goedwigaeth Prydain. Rydym yn cynnal adolygiad o’r defnydd o alpha-cypermethrin a cypermethrin ar Ystâd Goetir LlC a byddwn yn darparu camau gweithredu tymor byr, cynllun tymor canolig a fframwaith tymor hir i reoli’r difrod a achosir gan widdon pinwydd.
Ar y cyd â Forest Research, fe gynhaliom ddau seminar iechyd coed ar Chalara fraxinea (coed ynn yn gwywo) ym mis Mai 2013 a dau seminar pellach ar Phtyophthora ramorum a phlâu a phathogenau eraill ym mis Mehefin 2013. Roedd y rhain yn agored i’r sector preifat a daeth 200 o bobl iddynt.
Rydym wedi comisiynu Forest Research i ddarparu setiau data gofodol GIS a mapiau sy’n nodi’r ardaloedd â blaenoriaeth o ran creu coetiroedd a gwella’r rheolaeth bresennol ar goetiroedd er mwyn rheoli perygl llifogydd yn well yn y tri dalgylch peilot a dargedwyd gan y broses Cynllunio Adnoddau Naturiol: dalgylchoedd y Rhondda, Tawe a Dyfi. Ystyrir defnyddio’r canfyddiadau ar draws Cymru a byddant yn cael eu rhannu gyda’n staff Rheoli Perygl Llifogydd.
Rydym wedi comisiynu Forest Research i weithio gyda’n tîm Gweithrediadau Coedamaeth yng Nghymru i sefydlu treialon coedwigaeth cylchdro byr ar Ystâd Goetir LlC. Mae Coedwigaeth Cylchdro Byr yn ceisio mynd i’r afael â’r galw (cynyddol) am fiomas drwy system reoli sy’n gallu cynhyrchu ffynhonnell adnewyddiadau o danwydd o fewn ffrâm amser gymharol fyr (8 i 20 mlynedd), gan wneud hynny’n gynaliadwy. Mae nifer o rywogaethau o goed yn cael eu treialu. Nid yw hyn wedi cael ei brofi yng Nghymru o’r blaen a bydd yn cyfrannu at nod yn y Strategaeth Coetiroedd a nodwyd yn y Cynllun Gweithredu cysylltiol: Datblygu patrwm coedwigaeth cylchdro byr yng Nghymru a darparu canllawiau i berchenogion a rheolwyr.
Mae Ystâd Goetir LlC yn lleoliad delfrydol ar gyfer cyfleoedd dysgu yn yr awyr agored a allai fod yn estyniad dysgu i’n hysgolion. Mae hefyd yn cynyddu’r capasiti i fentrau bach a chanolig eu maint drwy gynnig lleoliadau neu drosglwyddo arbenigedd i wella’r setiau sgiliau dysgu yn yr awyr agored yng Nghymru a’r tu hwnt. Darparodd ein tîm addysg coedwigaeth dros 800 o ymweliadau i 19,000 yn fras o fyfyrwyr ynghyd â 3000 o oedolion a oedd yn ymweld gyda nhw. Darparodd y tîm ddigwyddiadau hyfforddi hefyd i 260 o athrawon a bu’n cefnogi rhwydwaith hyfforddi’r Ysgolion Coedwig. Buom yn parhau i hwyluso Dysgu yn yr Awyr Agored (a arferai gael ei alw’n Fenter Addysg y Coed) gan gynorthwyo 21 grŵp i rannu’r arferion gorau a meithrin capasiti.
Rydym wedi sefydlu cynllun lleoliadau Cyfle i gefnogi lleoliadau gwaith a darparu cyfleoedd i ddarparu hyfforddiant sgiliau. Darparwyd 65 o leoliadau profiad gwaith mewn swyddfeydd sy’n canolbwyntio ar goedwigaeth yn y flwyddyn gyntaf gan roi’r cyfle i fyfyrwyr i ddysgu mwy am yr agwedd hon o’n gwaith.
Yn ein Contractau Cynaeafu Tymor Hir rydym wedi ychwanegu cymalau caffael cymdeithasol i gefnogi prentisiaethau ac mae o leiaf dair wedi cael eu cefnogi er mis Ebrill 2013.
Cymru yw’r wlad gyntaf yn y byd i gwblhau arolwg o’r canopi coed yn ei holl ardaloedd trefol. Mae’r manylion llawn a’r buddion sy’n deillio o goed mewn ardaloedd trefol i’w gweld yn ‘Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’[19]. Mae’r astudiaeth yn darparu sylfaen tystiolaeth i helpu amryw o grwpiau a chyrff allweddol – o grwpiau cymunedol sydd â diddordeb mewn coed i gynllunwyr trefol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn awdurdodau lleol a llywodraeth genedlaethol – i gynllunio a rheoli ein hadnodd coed trefol yn well. Drwy ddadansoddi lluniau o’r awyr gwelwyd bod y canopi coed trefol yng Nghymru yn 16.8% yn 2009 (tua’r canol ar restr gwledydd y byd) gyda 55 o’n 220 o drefi yn dangos dirywiad yn y canopi drwyddo draw rhwng 2006 a 2009. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ac mewn cyrff sector cyhoeddus, trydydd sector a sector preifat ledled Cymru i gefnogi’r gwaith hwn a’i ddatblygu ymhellach gan hyrwyddo ffordd strategol o reoli ein coed trefol.
Yn haf 2013, buom yn gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam a Forest Research i gwblhau arolwg o’r coed ym Mwrdeistref Sirol Wrecsam gan ddefnyddio i-Tree Eco, model a ddatblygwyd gan Wasanaeth Coedwigaeth yr Unol Daleithiau. Prisiwyd y gwasanaethau ecosystem sy’n cael eu darparu gan goed trefol Bwrdeistref Sirol Wrecsam ar £1.7 miliwn y flwyddyn. Ochr yn ochr â phrosiect iTree Eco, mae prosiect ymchwil tair blynedd wedi cael ei gomisiynu gan grŵp partneriaeth gyda chynrychiolwyr arno o Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru, Forest Research a Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i asesu’r polisi ac agweddau ehangach tuag at yr arolwg a’i effaith ar goedwig drefol Wrecsam dros gyfnod o amser.
Rydym yn arwain, hwyluso a chymryd rhan ar lawer o fforymau lle mae’r sector coedwigaeth yn cael ei ystyried a/neu ei gynrychioli (mae adran 3.4.1 yn disgrifio cyswllt â’r diwydiant pren). Rydym hefyd yn cynnal seminarau a chyfarfodydd pwrpasol i drafod pynciau neu ledaenu gwybodaeth fel y digwyddiad ‘coedwigoedd, pysgodfeydd a dŵr’ a gynhaliwyd ym mis Mawrth 2014. Daeth 45 o gynrychiolwyr o sectorau perthnasol i wrando ar arbenigwyr yn eu maes yn trafod rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy, pysgodfeydd mewndirol a rheoli dalgylchoedd dŵr.
Sefydlwyd Fforwm Rheoli Tir Cymru ym mis Mai 2013 i weithredu fel y prif gyfrwng cyfathrebu rhwng Bwrdd a Thîm Gweithredol Cyfoeth Naturiol Cymru, ac etholodd ddeiliaid swyddi o brif sefydliadau rheoli tir Cymru. Mae’r fforwm yn fodd i rannu gwybodaeth, nodi meysydd o ddiddordeb cyffredin a datblygu ffordd ‘heb ddim byd annisgwyl’ ynddi o ymdrin â materion strategol. Ar hyn o bryd mae’r Fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr o Confor, yr undebau ffermio a chyrff sy’n cynrychioli rheolwyr a pherchenogion tir ond bydd yn adnewyddu’i Gylch Gorchwyl a’i aelodaeth ac mae’n gobeithio cynyddu’r gynrychiolaeth o’r sector coedwigaeth.
Mae Iechyd Coed wedi dod yn fater mwy a mwy difrifol yn y Deyrnas Unedig dros y blynyddoedd diwethaf wrth i newid hinsawdd ac, yn arbennig, batrymau tywydd annhymhorol wneud coed yn fwy tueddol o ddioddef clefydau ffwngaidd sy’n aml yn ffynnu mewn amodau llaith, cynnes. Ar yr un pryd mae mwy o symud nwyddau ar draws y byd wedi golygu bod plâu a phathogenau’n symud yn gyflymach rhwng gwledydd.
Mae sawl clefyd sy’n neilltuol o bwysig i Gymru. Mae clefyd ffwngaidd o’r enw Dothistroma, y cyfeirir ato’n aml fel Malltod Nodwyddau Bandiau Coch, wedi bod yn effeithio ar rywogaethau pinwydd, yn arbennig pinwydden Corsica, ers y 1990au hwyr. Clefyd cronig, lle mae coed yn colli’u dail, yw hwn ond mae’n glefyd y mae modd ei liniaru drwy deneuo i gynyddu’r llif aer a lleihau’r lleithder yn y canopi coed. Mae clefyd Chalara yn glefyd ffwngaidd ffyrnicach mewn coed ynn a gall arwain at dranc coed a hynny’n aml o glefydau eraill sy’n manteisio ar wendid y goeden. Fe’i canfuwyd yn y Deyrnas Unedig gyntaf yn 2012 ac erbyn hyn mae’n bresennol ar nifer o safleoedd yng Nghymru. Nid oes fawr o obaith o’i atal rhag lledaenu’n raddol yn niffyg canfyddiadau ymchwil. Fodd bynnag, y clefyd sydd wedi effeithio fwyaf ar goedwigoedd yng Nghymru yn y blynyddoedd diwethaf yw Phytophthora ramorum ar goed llarwydd.
Yn yr adran hon rydym yn canolbwyntio ar ein gwaith i reoli Phytophthora ramorum ar goed llarwydd er mis Ebrill 2013 ond mae’n bwysig disgrifio rhywfaint o’r cefndir i’n rôl yn canfod ac yn ymateb i’r clefyd ers iddo gael ei ddarganfod gyntaf yng Nghymru ym mis Mehefin 2010, yng Nghwm Afan yn y De. Mae’n bwysig nodi nad yw ein rôl mewn perthynas ag iechyd coed wedi’i chyfyngu i reoli Ystâd Goetir LlC.
Organeb tebyg i ffwng yw Phytophthora ramorum ar goed llarwydd ac fe’i cadarnhawyd gyntaf yn yr amgylchedd ehangach ym Mhrydain Fawr yn 2002 mewn rhododendron mewn gerddi addurniadol. Yn 2009 canfuwyd ei fod yn effeithio ar goed llarwydd yn Nyfnaint a Chernyw ac yn ym mis Mehefin 2010 fe’i canfuwyd yng Nghymru ar Ystâd Goetir LlC yn y De. Gwyddom ei fod yn effeithio ar amrywiaeth eang o rywogaethau eraill o lwyni a choed yn cynnwys bedw, derw mes di-goes, ffynidwydd Douglas a hemlog y gorllewin. Fodd bynnag, mae llarwydd wedi bod yn blanhigyn lletyol sy’n llawer mwy tueddol o ddioddef o’r clefyd a gall farw’n gyflym iawn tra nad yw llawer o’r rhywogaethau eraill ond yn gwywo. Nid ydym yn deall ymddygiad Phytophthora ramorum mewn llarwydd yn dda iawn ac nid yw’r patrwm lledaenu wedi dilyn y rhagfynegiadau a fodelwyd. O roi hyn ochr yn ochr a’r amrywiadau a geir yn nifer o’r ffactorau sy’n effeithio ar ei ledaeniad, er enghraifft y tywydd, nid yw’n bosibl dweud yn sicr pa mor effeithiol fydd ymyriadau i’w atal rhag lledaenu.
Mae rheoliadau statudol ynglŷn â chyfyngu lledaeniad Phytophthora ramorum ac mae’r rhain yn cael eu hadlewyrchu yn y trefniadau rheoli i safleoedd sydd â’r clefyd drwy Rybuddion Iechyd Planhigion Statudol. Caiff y clefyd ei ledaenu drwy sborau sy’n symud mewn aer llaith. I leihau’r nifer o sborau a chyfyngu drwy hynny ar ledaeniad y clefyd dylai deunydd sydd wedi’i heintio gael ei gwympo. Sefydlwyd Tîm Rheoli Achosion o’r Clefyd i’r Deyrnas Unedig gyfan i ddatblygu strategaethau i ymdrin â rheoleiddio, rheoli bioddiogelwch a gyrru’r blaenoriaethau ymchwil er mwyn cynyddu gwybodaeth. Yng Nghymru roedd pob ymateb cychwynnol, yn cynnwys gwaith rheoli, yn dilyn canllawiau Iechyd Planhigion y Comisiwn Coedwigaeth a’r Tîm Rheoli Achosion.
Mae’r cyfrifoldeb am Iechyd Coed yn y Deyrnas Unedig wedi newid. Cyn mis Ebrill 2013 roedd y cyfrifoldeb am Iechyd Coed yn gorwedd gyda’r Comisiynwyr Coedwigaeth a’r Comisiwn Coedwigaeth oedd yn llwyr gyfrifol am ei weithredu. Yng Nghymru mae Cyfoeth Naturiol Cymru a’r Comisiynwyr Coedwigaeth yn gyd gyfrifol am gyflawni swyddogaeth iechyd coed Gweinidogion Cymru. Mae hyn yn cynnwys y cyfrifoldeb i gyflwyno Rhybuddion Iechyd Planhigion Statudol neu’r hyn sy’n cyfateb iddynt. Rydym yn aelod o Grŵp Llywio Iechyd Coed Cymru a sefydlwyd gan LlC ym mis Gorffennaf 2013. Y Grŵp Llywio sy’n rheoli’r gwaith o weithredu Strategaeth Iechyd Coed Cymru (yn cynnwys rheoleiddio Phytophthora ramorumin ar goed llarwydd).
Ers i’r haint gael ei chanfod gyntaf yn 2010 mae wedi ennill ei phlwyf ac wedi lledaenu’n gyflym drwy’r llarwydd ar yr ystâd goedwig gyhoeddus yn y De lle’r oedd llarwydd wedi’u plannu’n helaeth ar y llethrau. Mae wedi lledaenu’n fwy graddol i’r coetiroedd preifat cymharol brin yng nghymoedd y De lle’r oedd llarwydd yn gyffredinol wedi cael eu plannu mewn ardaloedd llai, mwy gwasgaredig. Yng ngwanwyn 2013, canfuwyd bod y clefyd wedi lledaenu’n gyflym ac roedd 3200 hectar ychwanegol o larwydd wedi’u heintio. Yn 2013, cynyddodd cyfanswm yr ardal heintiedig i fwy na 6500 hectar (tua 30% o’r llarwydd yng Nghymru) – tabl 2. Nid yw lledaeniad Phytophthora ramorum yng Nghymru yn annhebyg i’w ledaeniad diweddar ar ucheldiroedd gorllewinol eraill ym Mhrydain, yn arbennig gorllewin yr Alban a Cumbria. Yn wir, mae’r clefyd cystal â bod yn endemig ar ochrau gorllewinol Ynysoedd Prydain bellach lle mae’r amodau hinsoddol yn debyg (atodiad 4).
Ym mis Rhagfyr 2013, cyflwynodd LlC Strategaeth Rheoli Clefyd Phytophthora ramorum i Gymru. Mae hon yn cydnabod nad yw strategaeth gyfyngu flaenorol y Deyrnas Unedig wedi bod yn effeithiol a bod angen targedu’r ymdrechion i reoli lledaeniad Phytophthora ramorum ar ymylon yr haint ac ar unrhyw achosion ynysig ohoni (ac nad oes fawr o fantais mewn ceisio rheoli’r lledaeniad mewn ardaloedd lle mae lefelau uchel o’r haint yn bodoli’n barod). Caiff y strategaeth ei hadolygu bob 6 mis a bydd yr adolygiad cyntaf yn digwydd ym mis Mehefin 2014. Fel y rheoleiddiwr materion coedwigaeth rydym wedi cyflwyno dros 470 o Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol yn cynnwys delio â hysbysiadau sydd wedi cael eu diddymu yn sgil newid y drefn weithredu ar ôl cytuno ar y Strategaeth Rheoli Clefyd ar gyfer Phytophthora ramorum.
Mae’r strategaeth yn rhannu Cymru yn ddau barth:
· parth clefyd craidd lle mae lefelau uchel o haint mewn ardaloedd cyffyrddol o larwydd (ychydig iawn o obaith o arafu’r haint, neu lle byddai cwympo’r coed yn yr ardaloedd sydd wedi’u heintio yn cael effaith amgylcheddol neu gymdeithasol niweidiol sylweddol); a
· pharth cyfyngu clefyd heb unrhyw achosion o’r clefyd neu lefelau cyfyngedig o’r haint (a lle mae modd rhoi mesurau rheoli ar waith a fyddai’n help i arafu’r lledaenu).
Mae’r gofyniad i gwympo coed yn cael ei dargedu at ffin y parth rheoli a’r parth cyfyngu ehangach. Nid yw Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol yn gymwys o fewn y parth clefyd craidd.
|
Blwyddyn |
Ardaloedd newydd wedi’u heintio (mewn hectarau) |
||
|
|
Cyfanswm Arwynebedd |
Ystâd Goedwig Gyhoeddus |
Ystâd Goedwig Breifat |
|
2010 |
831.6ha |
819.0ha |
12.6ha |
|
2011 |
745.7ha |
463.8ha |
281.9ha |
|
2012 |
1313.8ha |
1118.1ha |
195.7ha |
|
2013 |
3712.0ha |
2984.5ha |
727.5ha |
|
Arwynebedd cronnus |
6603.1ha |
5385.4ha |
1217.6Ha |
|
Cyfanswm yr arwynebedd llarwydd cyn P ramorum (NIWT 2002) |
|
12000ha
|
10122Ha
|
Ymatebodd Comisiwn Coedwigaeth Cymru i’r achosion gwreiddiol o’r haint yng nghymoedd y De yn 2010 drwy gwympo ardaloedd eang o larwydd a oedd wedi’u heintio. Ni allai’r marchnadoedd pren ymdopi â chymaint o larwydd wedi’i heintio felly cafodd llawer o ardaloedd eu cwympo i’r bonyn er mwyn cydymffurfio â’r terfynau amser mewn Hysbysiadau Iechyd Planhigion Statudol ond gan adael y coed i gael eu symud a’u marchnata’n ddiweddarach.
Roedd y gyfradd heintio is ar yr ystâd goedwig gyhoeddus yn 2011 yn awgrymu yn ôl pob golwg fod yr ymateb hwn yn cael effaith ac y byddai Comisiwn Coedwigaeth Cymru’n gallu rheoli’r haint drwy gynnwys coed llarwydd wedi’u heintio yn y rhaglen marchnata coed a fodolai ar y pryd yn lle coed eraill.
Fodd bynnag, pan ddaeth graddfa’r cynnydd yn yr heintio yn 2012 yn hysbys, daeth yn amlwg y byddai angen i’r Comisiwn Coedwigaeth gynyddu maint y rhaglen llarwydd er mwyn mynd i’r afael yn effeithiol â Phytophthora ramorum. Fodd bynnag, roedd yn dod yn fwyfwy amlwg hefyd fod y cwympo coed cyflym, ar raddfa fawr, mewn ardaloedd a oedd wedi’u heintio yng nghymoedd y De yn arwain at effeithiau amgylcheddol a chymdeithasol lleol arwyddocaol. Roedd hyn yn arbennig o wir mewn mannau lle’r oedd ardaloedd mawr o goed llarwydd yn agos at gymunedau a bod coed wedi cael eu cwympo ond wedi’u gadael ar y ddaear i’w symud a’u marchnata’n ddiweddarach. Roedd y coed wedi’u cwympo yn graith ar y dirwedd ac yn aml yn rhwystr ar draws llwybrau cerdded a beicio. Roeddent hefyd yn achosi perygl tân posibl tymor hir o gael eu gadael. Cafodd y gwaith cwympo effaith fawr ar werth amwynder a hamdden y coedwigoedd i gymunedau lleol ac ymwelwyr. Effeithiwyd yn ddrwg iawn ar fusnesau twristiaeth megis canolfannau beicio mynydd a darparwyr llety gan i nifer yr ymwelwyr ostwng yn aruthrol.
Roedd yn amlwg na ellid rheoli haint Phytophthora ramorum ar Ystâd Goetir LlC yn gynaliadwy heb ystyried yr effeithiau, y risgiau a’r costau. Er 2012, rydym wedi ceisio peidio â chwympo coed i’r bonyn fel ffordd o reoli’r clefyd, gan ddatblygu trefn amgen, fwy cynaliadwy, yn lle hynny. Roedd angen dull gweithredu i’r tymor hwy er mwyn clirio’r llarwydd a phlannu coed yn eu lle mewn ffordd a fyddai’n lleihau effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd niweidiol y newid.
Yn 2012, ar sail cyngor ymchwil fod Phytophthora ramorum yn debygol o effeithio ar bob clwstwr o goed llarwydd yng Nghymru yn y tymor canolig, datblygodd y Comisiwn Coedwigaeth raglen amlinellol i leihau’r niferoedd o goed llarwydd ar Ystâd Goetir LlC i lefel isel dros gyfnod o 10 mlynedd. O ystyried bod rhyw 2.5M metr ciwbig o bren llarwydd ar Ystâd Goetir LlC cyn Phytophthora ramorum, roedd hyn yn golygu cynyddu’r rhaglen i oddeutu 220,000 metr ciwbig / flwyddyn erbyn 2014/15. Byddai’r dull hwn wedi’i gynllunio yn fodd i gynllunio adnoddau’n fwy effeithiol a byddai cyfle i liniaru’r effeithiau.
Roedd rhai rhanddeiliaid yn meddwl bod hyn yn rhy llym ac yn gynamserol. Fodd bynnag, cadarnhaodd y cynnydd pellach yn y gyfradd heintio yn 2013 yr angen i sefydlu rhaglen i gael gwared â llarwydd o’r ystâd goedwig gyhoeddus. Er mwyn cadw’r lefel gynhyrchiant drwyddi draw o fewn terfynau cynaliadwy a lleihau’r effeithiau niweidiol ar farchnadoedd pren, penderfynwyd cwympo llai o goed ar wahân i larwydd er mwyn gwneud iawn am lawer o’r cynnydd mewn pren llarwydd.
Nid yw’r capasiti’n bodoli yn y sector prosesu pren yng Nghymru ar hyn o bryd i gynaeafu’r cyfaint ychwanegol o dir serth ac i brosesu’r pren llarwydd ychwanegol i’w droi’n gynnyrch â gwerth ychwanegol, felly penderfynwyd y byddai angen i’r Comisiwn Coedwigaeth / LlC gynnig Contractau Tymor Hir i sicrhau’r ymrwymiad a’r buddsoddiad angenrheidiol. Mae contractau tymor hir yn rhan o’r Strategaeth Marchnata Pren ar gyfer Ystâd Goetir LlC ac maent wedi cael eu defnyddio’n effeithiol i sicrhau buddsoddiad. Ceisiwyd barn y diwydiant coedwigaeth yn gyntaf ym mis Hydref 2012 am y cyfeintiau ychwanegol a’r defnydd o gontractau tymor hir ar gyfer llarwydd ac mae’r adborth yn help i lunio ein dull gweithredu wrth symud ymlaen.
Er bod y marchnata a’r gwaith datblygu adnoddau wedi bod yn mynd rhagddynt, mae’r unedau Gweithrediadau Coedwigaeth hefyd wedi parhau i weithredu’r rhaglen waith bresennol. Hyd yma mae cryn lawer mwy na 2000ha o ardaloedd llarwydd heintiedig wedi cael eu cwympo. Mae’r mwyafrif o’r rhain wedi cael eu clirio bellach ac mae rhyw 450,000 metr ciwbig o bren heintiedig wedi cael ei gynaeafu oddi ar Ystâd Goetir LlC a’i gyflenwi i broseswyr pren.
Er mis Mehefin 2013, rydym wedi cael trafodaethau helaeth gyda Llywodraeth Cymru ynglŷn â’r opsiynau a’r goblygiadau o ran adnoddau er delio â Phytophthora ramorum, a datblygwyd opsiynau wedi’u costio ar gyfer gwahanol ddulliau gweithredu. Aseswyd y byddai cost net y Rhaglen Ailstrwythuro Gynaliadwy ar Ystâd Goetir LlC dros y 10 mlynedd nesaf yn £50M. Elfen fwyaf y rhaglen oedd cost ailblannu’r ardaloedd ehangach a gâi eu cwympo gyda rhywogaethau mwy amrywiol o goed er mwyn gwneud yr ystâd yn gryfach. Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau £2.5m o gyllid i Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer 2014/15 fel bod modd rhoi opsiwn sy’n gofyn am lai o ariannu ar waith ac rydym wrthi ar hyn o bryd yn cynllunio sut mae gwneud y defnydd gorau o’r arian hwn.
Ynghyd â’r Comisiwn Coedwigaeth yn yr Alban a Lloegr, Llywodraeth yr Alban a FERA, rydym wedi bod yn gweithio gyda Defra ar gaffael astudiaeth gwmpasu i gefnogi’r sector meithrinfeydd i ddatblygu cynllun labelu, achredu a sicrhau ansawdd i feithrinfeydd coed a llwyni ym Mhrydain Fawr.
Rydym wedi parhau i wneud cynnydd da o ran yr argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ynglŷn â gweithrediadau Comisiwn Coedwigaeth Cymru ac mae craffu ar gynnydd yn eitem sefydlog ar agenda’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg. Mae’n bwysig nodi nad yw’r holl argymhellion a wnaed gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ymwneud yn uniongyrchol â’r ffordd y caiff yr Ystâd Goedwig Gyhoeddus ei rheoli a’i bod yn briodol cyflawni’r ymateb rheoli o ran rhai camau gweithredu ar ôl breinio Cyfoeth Naturiol Cymru.
O’r 17 argymhelliad, cafodd tri eu cyflawni cyn y breinio ac mae naw arall wedi’u cyflawni er mis Ebrill 2013 (tabl 3). O’r pedair eitem sy’n weddill:
· Mae darn ehangach o waith i fod i gael ei gwblhau yn ystod 2014 yn ymwneud â chaffael a defnydd staff o gardiau caffael.
· Mae’r adolygiad o’r strategaeth marchnata pren a’r gwaith ehangach a ddisgrifiwyd yn adran 3.4 ar y trywydd iawn i gael eu cwblhau yn ddiweddarach eleni.
· Mae argymhelliad 9b ynglŷn â sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru’n cyflawni buddion yn cael ei weithredu ar sail gydgynhyrchu fel rhan o drefniadau nawdd Llywodraeth Cymru.
· Rydym yn ymdrin ag argymhelliad 7 fel rhan o’n hymateb i 1c a’r gwaith o ddatblygu dull integredig o ymdrin â rheoli adnoddau naturiol gyda Llywodraeth Cymru.
|
Argymhellion
|
Maes gweithredu |
Cynnydd erbyn Mai 2014 |
|
Cysylltu blaenoriaethau corfforaethol â gwaith cynllunio lleol, gwaith dyrannu adnoddau a gwaith cynllunio’r gweithlu |
1a. y gymysgedd sgiliau wedi’i hasesu ac yn ddigonol |
Cyflawnwyd Chwe 2014 |
|
1b. rhaglenni corfforaethol wedi’u costio ac adnoddau wedi’u darparu
|
Cyflawnwyd Chwe 2014 |
|
|
1c. cynlluniau coedwig dosbarth lleol wedi’u diweddaru
|
Cyflawnwyd Chwe 2014 Gweler hefyd gam gweithredu 7 |
|
|
Prosesau busnes caffael
|
2a. adolygu’r gwasanaeth caffael unigol |
Cyflawnwyd Mawrth 2013 |
|
2b. cynnydd yn erbyn strategaeth gaffael CCC |
Cyflawnwyd Mawrth 2013 |
|
|
2c. gwasanaeth caffael a defnyddio cardiau caffael
|
I fod i gael ei gwblhau haf 2014 |
|
|
Prosesau rheoli risg
|
3a. nodi cyfleoedd mewn cofrestrau risg
|
Cyflawnwyd Medi 2013 |
|
3b. cysoni cynllunio corfforaethol a rheoli risg
|
I fod i gael ei gwblhau gwanwyn 2014 |
|
|
Rheoli adnoddau – cynhyrchu a rhagamcanu pren
|
4a. mesur, gwerthuso ac adrodd ar lwyddiant strategaeth farchnata’r adolygiad pren
|
I fod i gael ei gwblhau Medi 2014 |
|
4b. dadansoddiad cost a budd ehangach o’r dulliau cynhyrchu uniongyrchol a gwerthu coed sy’n sefyll – yn cynnwys cyflawni yn erbyn amcanion polisi ehangach
|
Cyflawnwyd Hyd 2013 Gweler hefyd gam gweithredu 4a |
|
|
5a. awdurdodi faint o bren y ceir ei echdynnu
|
Cyflawnwyd Mawrth 2013 |
|
|
5b. hapwirio bod y canllawiau’n cael eu dilyn – gweithdrefn sicrhau ansawdd |
Cyflawnwyd Chwe 2014 |
|
|
6. strategaeth i gynyddu incwm o ffynonellau heblaw pren a chysylltu hynny a chanlyniadau polisi cyhoeddus ehangach (monitro a gwerthuso)
|
Cyflawnwyd Chwe 2014 |
|
|
Rheoli adnoddau – sicrhau cysondeb rhwng yr ystâd goedwig gyhoeddus a blaenoriaethau polisi LlC |
7. cysondeb ag amcanion polisi LlC: amserlen i ddangos sut gall Ystâd Goetir LlC gyfrannu orau
|
Wedi’i sefydlu ac yn rhan o’r gwaith ehangach o ddatblygu’r broses Cynllunio Adnodd Coedwigaeth (cam 1c) ac o ddatblygu dull Rheoli Adnoddau Naturiol yn Integredig ar y cyd â Llywodraeth Cymru |
|
Rheoli newid yn effeithiol |
8. rheoli newid: arolwg staff, ymgysylltu â staff a gweithredu
|
Yr argymhellion gwreiddiol wedi’u cyflawni yn Chwe 2014 (yn parhau fel rhan o’r newid cyfundrefnol a’r prosesau datblygu) |
|
Gwelliant parhaus adolygu, craffu a herio
|
9a. craffu ar argymhellion yr archwiliad yn gyfnodol |
Cyflawnwyd Medi 2013 (caiff ei gynnwys fel eitem sefydlog i’r Pwyllgor Archwilio a Sicrhau Risg) |
|
9b. argymhelliad i LlC – sicrhau bod buddion yn cael eu cyflawni
|
Cyflawnwyd. Proses gydgynhyrchu gyda Llywodraeth Cymru |
Mae cyswllt ymhlyg rhwng dau o’r camau gweithredu (1c a 7) gan fod rhaid i’r gwaith o gynllunio’r ystâd goedwig gyhoeddus yn lleol ddigwydd fel rhan annatod o’r Dull Integredig o Reoli Adnoddau Naturiol sy’n datblygu. Byddwn yn sicrhau bod y gwaith o gynllunio a rheoli’r ystâd goedwig gyhoeddus yn strategol, yn dactegol ac yn weithredol yn parhau i esblygu cyhyd â bod hyn o fewn ein cylch gwaith. Rydym yn parhau i roi cymorth a chyngor i Lywodraeth Cymru wrth iddi ddatblygu a gweithredu Dull Integredig o Reoli Adnoddau Naturiol.
Fel y cyfeiriwyd ato yn ein crynodeb, mae synergeddau cryf iawn rhwng Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy a Dull Integredig o Reoli Adnoddau Naturiol ond mae sialensiau a allai ei gwneud yn anodd i’r tueddiadau cadarnhaol barhau:
a) Dros pa gyfnod o amser y gellir gwireddu gwelliannau – mae rheoli newid mewn coedwigoedd o reidrwydd yn broses tymor hir;
b) Yr adnoddau sy’n ofynnol i allu rhoi trefn Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy ar waith a’i chynnal, yn enwedig o ystyried y pwysau cynyddol sy’n deillio o achosion difrifol o glefydau, a allai fod yn drobwynt;
c) Penderfynu ar y cydbwysedd gorau posibl o nwyddau a gwasanaethau i’w darparu, ar ba raddfa, a sut ac ym mha gyd-destun y bydd gan gymdeithas rôl ac y gwnaiff ei dewis;
d) Mae Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy a darpariaeth gwasanaethau gytbwys yn ffynnu drwy ddefnyddio egwyddorion rheoli addasol ond weithiau rhaid rhoi blaenoriaeth i wasanaethau unigol oherwydd ymrwymiadau cyfreithiol, grym y farchnad, lle neu bobl;
e) Prisio ac asesu’n llawn y gwasanaethau ar gyfer y farchnad a’r gwasanaethau eraill sy’n deillio o Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy a datblygu mecanweithiau ariannol i’w cynnal – a sut mae hyn yn adweithio â Dull Integredig o Reoli Adnoddau Naturiol; ac
f) Gan fanteisio ar farchnadoedd newydd a mecanweithiau ariannol, deall a gweithredu ar sut y gallai hyn helpu i wireddu trefn i Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy mewn coedwigoedd presennol neu wrth greu coetiroedd newydd, i gynyddu’r llif o wasanaethau sydd â nifer o fuddion neu wasanaethau ac sy’n deillio o un coetir. Ar y llaw arall, gallai’r potensial hwn gael ei fygu.
Mae angen cynllunio a gweithredu cydgysylltiedig ar draws defnyddiau tir a rhwng sectorau er mwyn gwireddu Dull Integredig o Reoli Adnoddau Naturiol. Mae pobl a lle yn dyngedfennol er cyflawni ymrwymiadau Cymru i Reoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy, gan gynnal y potensial cynhyrchu a’r llif o gynhyrchion pren defnyddiadwy yr un pryd. Fodd bynnag, efallai mai dim ond os eir i’r afael â gofynion ‘ffeirio’ anodd (pethau fel rôl hynod gost effeithiol coed er mwyn cyrraedd ein targedau lleihau carbon[20] neu glirio coetiroedd sydd wedi’u plannu oddi ar fawnogydd[21]) y bydd modd gwireddu rhai o’r buddion y mae polisi a chymdeithas yn eu mynnu. Mae angen eglurder strategol i wneud penderfyniadau o’r fath os byddwn yn dibynnu ar Gynlluniau Adnoddau Naturiol Integredig seiliedig ar ardal fel y cyfrwng i wireddu synergeddau a lleihau ffeirio niweidiol. Ym Mhapur Gwyn Bil yr Amgylchedd cynigiwyd y bydd Gweinidogion Cymru’n cyhoeddi Polisi Adnoddau Naturiol bob pum mlynedd a fydd yn cyflwyno cyfeiriad teithio lefel uchel i’r holl bolisi yn ymwneud ag adnoddau naturiol yng Nghymru, yn cynnwys cyfleoedd allweddol, tueddiadau a blaenoriaethau ar sail genedlaethol. Mae unrhyw ddiwygio ar Coetiroedd i Gymru yn debygol o fod yn rhan o’r fframwaith polisi ehangach hwn a bydd y ffordd y caiff yr ystâd goedwig gyhoeddus ei rheoli yn esblygu yn unol â hynny.
Wrth reoli tir cyhoeddus er budd y cyhoedd mae tensiynau i’w datrys – pethau fel y flaenoriaeth i gynyddu incwm o Ystâd Goetir LlC ac, ar yr un pryd, sbarduno mentrau bach a chanolig eu maint drwy ysgogi’r galw am gynnyrch pren o Gymru, sy’n cael ei gynhyrchu’n lleol ac yn gynaliadwy, ynghyd â’r cyflenwad. Yn ein gwaith y tu hwnt i Ystâd Goetir LlC mae ardaloedd mawr o goetiroedd nad ydynt yn cael eu rheoli a allai gryfhau busnesau fferm a chefnogi twf mewn busnesau bach, lleol – mae gennym ni rôl i gefnogi gweithgarwch o’r fath.
Mae’n holl bwysig ein bod yn dysgu o ddull Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy, ac nad yw’r dulliau yr ydym yn eu datblygu yn tanseilio popeth sydd wedi cael ei gyflawni a’u bod yn dal i adeiladu ar y cynnydd cadarnhaol sydd wedi cael ei wneud. Byddwn yn parhau i integreiddio Rheoli Coedwigoedd yn Gynaliadwy i’n patrwm gweithio drwyddo draw fel bod cydlyniad rhwng cynlluniau sy’n ategu’r dyhead cyffredinol yng Nghymru am Reoli Adnoddau Naturiol yn Integredig.
Cyfoeth Naturiol Cymru
Mai 2014
O Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011) The UK National Ecosystem Assessment Technical Report UNEP-WCMC, Caergrawnt td1029



Ionawr – Rhagfyr
Risg Hinsoddol Gyfartalog


[1] Ffigurau dros dro o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2013/14 Cyfoeth Naturiol Cymru – sy’n cael eu paratoi.
[2] Asesiad Ecosystemau Cenedlaethol y DU (2011) The UK National Ecosystem Assessment Technical Report UNEP-WCMC, Caergrawnt
[3] Quine, Bailey a Watts, (2013), Sustainable Forest Management in a time of ecosystem services frameworks: a common ground and consequences, Journal of Applied Ecology, 50, 863-867
[4]Cyfrifwyd yr arbedion carbon blynyddol cyfartalog o ffigurau ar gyfer y Cynllun Busnes Ynni Pren; cynlluniau ynni dŵr ar raddfa fach; safleoedd ynni gwynt yng Nghlocaenog (Datganiad Amgylcheddol atodiad 2.1 asesiad cydbwysedd carbon, Mawrth 2013, SKM Enviros); Nant y Moch (crynodeb annhechnegol, Mai 2012, Dulas ReSolutions); Gorllewin Brechfa (asesiad cydbwysedd carbon diweddaredig ar gyfer RWE, Gorffennaf 2011, RSK Group PLC); Datganiad Amgylcheddol Pen y Cymoedd, crynodeb annhechnegol).
[5]Mae’r saith Canllaw yn disgrifio 39 o ofynion cyfreithiol, 59 o ofynion o ran arferion coedwigaeth da a 316 o elfennau o ran rheoli coedwigoedd yn gynaliadwy; hefyd, ceir canllawiau arferion da ar gyfer elfennau penodol.
[6]Rhan o Benderfyniad Gweinidogol Oslo ar Goedwigoedd Ewropeaidd 2020: Gweledigaeth a rennir gan lofnodwyr FOREST EUROPE ar http://www.foresteurope.org/
[7] Strategaeth Llywodraeth Cynulliad Cymru ar gyfer Coed a Choedlannau, ‘Coetiroedd i Gymru’ (2009) Comisiwn Coedwigaeth Cymru
[8] Strategaeth Marchnata Pren 2011-16, Comisiwn Coedwigaeth Cymru / LlC - ar gael adeg ysgrifennu’r papur hwn ar wefan y corff etifeddol http://www.forestry.gov.uk/pdf/TimberMarketingStrategy11-16.pdf/$FILE/TimberMarketingStrategy11-16.pdf
[9] Chwe 2013 oddi ar http://www.forestry.gov.uk/forestry/INFD-8JTE8F
[10] Cyfrifir arbedion carbon drwy gymharu’r colledion wrth ddatblygu safle yn erbyn trydan na fydd ei angen wedyn a fyddai wedi cael ei gynhyrchu o danwydd ffosil neu gymysgedd grid y Deyrnas Unedig
[11]Datganiad Amgylcheddol Pen y Cymoedd, crynodeb annhechnegol
[12]Cyfoeth Naturiol Cymru Mai 2014 ffigurau heb eu cyhoeddi
[13] Jeffreys, M. Cyflwynwyd i WEFO fel rhan o Adolygiad Annibynnol Diwedd Prosiect
[14]Yn cael ei baratoi–i fod i gael ei gyflwyno i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru 14eg Mai.
[15]Ffigurau Cyfoeth Naturiol Cymru a gyflwynwyd i WEFO am ran o’r flwyddyn. Mae’r ffigurau diwedd blwyddyn yn cael eu cwblhau’n derfynol adeg ysgrifennu’r papur hwn.
[16]Er enghraifft, mae Nodyn Ymarfer y Comisiwn Coedwigaeth – Managing Public Safety on Harvesting Sites, a adolygwyd ym mis Tachwedd 2012 –yn darparu canllawiau i dirfeddianwyr, rheolwyr coedwig ac ymarferwyr coedwig wrth iddynt gyflawni’u dyletswydd gofal i’r cyhoedd ar safleoedd gwaith coedwigaeth, ynghyd â gwybodaeth a chyngor ar fesurau rheoli addas. Mae hefyd yn rhoi enghreifftiau o ymarfer da drwy ddefnyddio senarios.
[17] Ffigurau ar gyfer mis Ebrill 2014
[18] Willoughby et al, Forestry Commission Practice Guide - Reducing pesticide use in Forestry, 2004, y Comisiwn Coedwigaeth. Operational Guidance Booklet 15 (i staff y Comisiwn Coedwigaeth [a CNC]) – Using Chemicals in the Forest
[19]Cyfoeth Naturiol Cymru Gorchudd Coed yn Nhrefi a Dinasoedd Cymru’ Mai 2014, Cyfoeth Naturiol Cymru–mae’r copi llawn a chrynodeb ar gael drwy ein gwefan
[20] Read, DJ et al (2009) Combating climate change – a role for UK forests. The Stationary Office, Caergrawnt
Valetin a Saraev (2012) Natural Environment Framework: woodland creation case study Forest Research
[21] Vanguelova at al (2012) Strategic assessment of the afforested peat resource in Wales. Forest Research